SL(6)458 – Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024

Cefndir a Diben

Mae Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (y “DTGT“) yn sefydlu ac yn nodi’r fframwaith a’r trefniadau gweithredol ar gyfer treth gwarediadau tirlenwi (“TGT”), a ddisodlodd dreth dirlenwi y DU yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r gyfradd safonol, y gyfradd is a’r gyfradd gwarediadau anawdurdodedig ar gyfer TGT, a fydd yn gymwys i warediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2024 neu wedi hynny.

Dyma’r cyfraddau o 1 Ebrill 2024 ymlaen:

-              Y gyfradd safonol yw £103.70 y dunnell (wedi’i chynyddu o £102.10 y dunnell),

-              Y gyfradd is yw £3.30 y dunnell (wedi’i chynyddu o £3.25 y dunnell)

-              Y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £155.55 y dunnell (wedi’i chynyddu o £153.15 y dunnell).

Bydd gwarediadau trethadwy a wneir ar 1 Ebrill 2023 neu wedi hynny ond cyn 1 Ebrill 2024 yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r cyfraddau a bennir yn Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022.

Mae Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (y ‘DCRhT’) yn gwneud darpariaeth ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig Cymru. Mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Tabl A1 yn adran 122(3) o DCRhT i amnewid croesgyfeiriad rhif anghywir at ddarpariaethau yn y DTGT.

Gweithdrefn

Cadarnhaol drafft.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.3(i) - ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu awdurdod lleol neu gyhoeddus er mwyn cydnabod unrhyw drwydded, cydsyniad neu unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.

Mae adran 25 o DCRhT yn nodi bod yn rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau i Gronfa Gyfunol Cymru. ACC sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli’r dreth gwarediadau tirlenwi. Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r tair cyfradd ar gyfer TGT yng Nghymru.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae Adran 122 o DCRhT yn gwneud person yn agored i gosb am dalu treth ddatganoledig yn hwyr. Darperir ar gyfer cosbau am dalu’n hwyr o ran TGT a godir ar warediadau sydd heb eu hawdurdodi drwy gyfeirio at eitem 10 o Dabl A1 yn adran 122(3), sy'n disgrifio taliadau o'r fath fel:

“Swm a godir gan hysbysiad codi treth a ddyroddir o dan adran 48 neu 49 o DTGT.” [ychwanegwyd y pwyslais]

Mae Adran 48 o’r DTGT yn cynnwys y pŵer i gyhoeddi hysbysiad rhagarweiniol (sy'n nodi pam mae ACC o'r farn bod trethdalwyr yn agored i dalu’r dreth gwarediadau tirlenwi ar y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi). Nid yw’n cynnwys y pŵer i ddyroddi hysbysiad codi treth. Caniateir i drethdalwyr, sydd wedi cael hysbysiad rhagarweiniol o dan adran 48 gyflwyno sylwadau i ACC ynghylch pam nad yw TGT yn ddyledus cyn i ACC benderfynu a ddylid codi treth. Mae adran 49 yn cynnwys y pŵer i ACC ddyroddi hysbysiad codi treth yn dilyn yr hysbysiad rhagarweiniol. Mae adran 50 yn caniatáu i ACC ddyroddi hysbysiad codi treth heb ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol yn gyntaf mewn amgylchiadau os yw ACC yn credu bod treth yn debygol o gael ei cholli pe bai’n mynd yn ei flaen o dan adrannau 48 a 49.

Mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn cywiro'r cyfeiriad at adran 48 neu 49 o'r DTGT yn eitem 10 o Dabl A1 fel ei fod yn hytrach yn cyfeirio at hysbysiadau codi tâl a ddyroddir o dan adran 49 neu 50 o'r DTGT.

Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n gysylltiedig â’r Rheoliadau hyn yn nodi (ym mharagraff 4.15):

“Mae’n ymddangos bod y gwall hwn wedi digwydd pan ychwanegwyd adran newydd yn y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi yn ystod Cyfnod 3 (gan ddod yn adran 25) 5 gan ailrifo holl adrannau dilynol y Bil. Cafodd yr angen i ddiweddaru eitem 10 yn Nhabl A1 i adlewyrchu ailrifo’r adrannau ei esgeuluso. Os na chaiff y gwall ei gywiro, ni fydd ACC yn gallu codi cosb am daliadau hwyr am dreth a godir yn unol â hysbysiadau codi treth a ddyroddir o dan adran 50 o Ddeddf TGT…”.

Gofynnir felly i Lywodraeth Cymru gadarnhau’r canlynol:

1.     a yw wedi nodi unrhyw ddarpariaethau eraill yn y DTGT a allai fod angen eu diwygio o ganlyniad i fewnosod adran 25 o'r DTGT yng Nghyfnod 3 y Bil TGT;

2.     a yw ACC wedi gosod unrhyw gosbau talu hwyr ar drethdalwyr mewn cysylltiad â hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 50 o'r DTGT;

3.     a gafodd unrhyw symiau a adferwyd gan ACC mewn perthynas â chosbau o'r fath eu talu i Gronfa Gyfunol Cymru;

4.     a yw wedi dod i'r casgliad bod unrhyw gosbau o'r fath wedi'u gosod yn anghyfreithlon o ganlyniad i'r gwall a nodwyd yn adran 122 o DCRhT; ac, os felly,

5.     a yw wedi cymryd, neu'n bwriadu cymryd unrhyw gamau mewn cysylltiad â'r cosbau hynny.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Pwynt Craffu ar Rinweddau 2: Nid yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw ddarpariaethau eraill yn y DTTT y mae angen eu diwygio o ganlyniad i fewnosod adran 25 o’r DTTT yng Nghyfnod 3 o’r Bil TTT.

Nid yw ACC wedi dyroddi unrhyw hysbysiadau eto o dan adran 50 o’r DTTT ac ni fydd yn gwneud hynny cyn i’r diwygiad hwn i'r DCRhT gymryd effaith. Felly, ni osodwyd ac ni osodir unrhyw gosbau am daliadau hwyr mewn cysylltiad â hysbysiadau sydd wedi eu dyroddi o dan adran 50 o’r DTTT cyn y diwygiad hwn.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

23 Chwefror 2024